Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 26 Mawrth 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
10.30 - 12.03 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Leighton Andrews AC Rebecca Evans AC Janet Finch-Saunders AC Elin Jones AC Darren Millar AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Mark Drakeford AC, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Dr Sarah Watkins, Llywodraeth Cymru Chris Tudor-Smith, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Victoria Paris (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Trafod cynllun gwaith y Pwyllgor ar gyfer yr ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru
1.1 Gwnaeth y Pwyllgor drafod, diwygio a chytuno ar gynllun gwaith ar gyfer yr ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru.
2 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr haf 2014
2.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith ar gyfer Ebrill – Gorffennaf 2014.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd swyddogion y Llywodraeth i ddarparu papurau briffio ffeithiol, ar gyhoedd, ynghylch Papur Gwyn Iechyd y Cyhoedd sydd ar ddod a'r rheoliadau drafft ar feini prawf cymhwysedd sy'n deillio o'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
2.3 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(ii), pleidleisiodd y Pwyllgor ar y cynnig a ganlyn, a gynigiwyd gan Elin Jones AC, ac a dderbyniwyd gan y Cadeirydd heb rybudd yn unol â Rheol Sefydlog 17.44:
Bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn neilltuo amser mewn cyfarfod yn y dyfodol i glywed tystiolaeth gan y Gwir Anrhydeddus Ann Clwyd AS, os ydyw ar gael, ynglŷn â'i gwaith mewn perthynas â chwynion ynghylch y GIG yn Lloegr a'r dystiolaeth y mae wedi cyfeirio ati yng nghyswllt cwynion ynghylch y GIG yng Nghymru.
Dyma ganlyniad y bleidlais:
O blaid |
Yn erbyn |
Ymatal |
Elin Jones Darren Millar Janet Finch-Saunders Lindsay Whittle Kirsty Williams |
Leighton Andrews Rebecca Evans Lynne Neagle Gwyn Price David Rees |
0
|
5 |
5 |
0 |
Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw yn negyddol, yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii). Felly, gwrthodwyd y cynnig. |
3 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'i swyddogion i'r cyfarfod.
4 Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: Sesiwn dystiolaeth 2
4.1 Holodd y Pwyllgor y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch argaeledd gwasanaethau bariatrig.
4.2 Yn ystod y sesiwn, awgrymodd y Gweinidog y byddai'n darparu gwybodaeth am y goblygiadau i'r GIG o ran cost y gwaith o roi llawdriniaethau cywirol i gleifion sydd wedi cael llawdriniaethau bariatrig y tu allan i Gymru.
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.47, gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod rhwng 11.58 a 12.00
5 Papurau i’w nodi
5.1 Nododd y Pwyllgor y papurau o'i ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig a llythyrau gan sefydliadau allanol yn cynnig ymchwiliadau i'w cynnal yn y dyfodol.
5.1 Gwybodaeth ychwanegol o'r cyfarfod ar 13 Chwefror 2014
5.2 Nodyn a gofnodwyd yn y cinio i drafod gwaith gydag academyddion Prifysgol Abertawe, 13 Chwefror 2014
5.3 Nodyn a gofnodwyd yn y cyfarfod â chynrychiolwyr Sefydliad Llawdriniaeth Gordewdra a Metabolaidd Cymru, 13 Chwefror 2014
5.4 Nodyn a gofnodwyd yn y digwyddiad grŵp ffocws, Cwmbrân, 12 Mawrth 2014
5.5 Gohebiaeth gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru – awgrym i gynnal ymchwiliad i nyrsio cymunedol
5.6 Gohebiaeth gan Crohn's and Colitis UK – awgrym i gynnal ymchwiliad i roi canllawiau cenedlaethol ar glefydau llid y coluddyn (IBD) ar waith